Cefndir
Cynradd
Uwchradd
Newyddion
Plant
Gwefannau
Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd
3 canolfan gynradd blwyddyn 2-4 a 3 chanolfan bontio blwyddyn 5-9.

Cwrs Hwyliog a bywiog wedi ei chyfoesi.

Cymhareb athro: disgybl uchel.
Ble mae'r Canolfannau Iaith?
Canolfan Iaith Maesincla cynradd blwyddyn 2-4, Caernarfon.

Canolfan Iaith Dolgellau cynradd blwyddyn 2-4.

Canolfan Iaith cynradd blwyddyn 2-4 Llangybi.

Canolfan Iaith Pontio cynradd / uwchradd blwyddyn 5-9 safle ysgol Uwchradd Tywyn.

Canolfan Iaith Pontio cynradd / uwchradd blwyddyn 5-9 safle ysgol Uwchradd Eifionydd, Porthmadog.

Canolfan Iaith Pontio cynradd / uwchradd blwyddyn 5-9 safle ysgol Uwchradd Tryfan, Bangor.
Y Gymraeg yng Ngwynedd
Iaith ysgolion Gwynedd.

Iaith addysgu a dysgu pob pwnc (ac eithrio Saesneg).

Iaith yr athrawon, y disgyblion a phob agwedd o fywyd yr ysgol.
Manteision Amlieithrwydd
Mae meddu ar fwy nac un iaith yn rhoi mynediad i ddiwylliannau eraill.

Mae mwy o swyddi nac erioed o'r blaen yn gofyn am y Gymraeg.

Mae'n haws dysgu trydedd neu bedwaredd iaith ar ôl meistroli dwy iaith.
Eich cwestiynau?
Ydy dysgu'r Gymraeg yn anodd? Nac ydy.

Ydy plant yn cymysgu rhwng y ddwy iaith? Nac ydyn.

Fydd dysgu dwy iaith yn effeithio'n negyddol ar y Saesneg? Na fydd.

Canolfan Iaith Uwchradd

#fi - Abi, Greta a Mikee

Polisi Diogelu Data

01766 515573

© 2025 Hawlfraint Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd ~ Gwefan gan Delwedd