Cefndir
Cynradd
Uwchradd
Newyddion
Plant
Gwefannau

Canolfan Iaith Uwchradd Porthmadog

iconGwybodaeth am Ganolfan Iaith Uwchradd

 

Ceir pedair canolfan iaith gynradd ac un ganolfan iaith uwchradd yng Ngwynedd. Lleolir y canolfannau cynradd yng Nghaernarfon, Dolgellau, Llangybi a Phenrhyndeudraeth. Lleolir y ganolfan iaith uwchradd ym Mhorthmadog.

Beth yw`r nod?disgyblion

Nod y Canolfannau Iaith yw darparu cwrs dwys yn y Gymraeg i fewnfudwyr er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn o brofiadau addysg ddwyieithog.


Mae’r ddarpariaeth hon yn greiddiol i gynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu’r Polisi Iaith cyfredol.
(Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2014-2017)


Pwy?

Croesewir disgyblion 11 - 14 oed sydd yn hwyrddyfodiaid i’r Sir am dymor o gwrs iaith yn y Ganolfan Uwchradd. Bydd uchafswm o 16 disgybl yn mynychu`r Ganolfan.


Pamffled Canolfannau Iaith Gwynedd (yn dod yn fuan)

 

Y Cwrs

Cwrs strwythuredig

Mae`r cwrs wedi ei gynllunio`n ofalus i sicrhau llwyddiant. Ceir strwythur bendant i`r gwersi sy`n datblygu o wythnos i wythnos i gynnig iaith safonol i`r disgyblion.


Cwrs hwyliog a bywiog

Rhoddir gwerth mawr ar fwynhad, gan mai hyn fydd yn sicrhau bod y digyblion yn magu hyder i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol.

 

Cwrs amlgyfrwng a thrawsgwricwlaidd

Drwy ddrama a chanu, mathemateg a gwyddoniaeth, addysg gorfforol a chelf a dyniaethau, trochir y plant yn y Gymraeg. Galluoga hyn i’r disgyblion ddychwelyd i`w hysgolion i ddilyn y cwricwlwm yn y Gymraeg.


Er mwyn sicrhau dilyniant priodol yn yr ysgolion bydd athrawon y Canolfannau yn cynnig gwasanaeth ôl-ofal i`r disgyblion wedi iddynt ddychwelyd i`w hysgolion.

icon

 

Staff Canolfan Iaith Uwchradd
Nifer disgyblion: 16

Uwch gymhorthydd: Drudwen Lloyd Jones

placeholder

Athrawes / Dirprwy Bennaeth y Gyfundrefn : Cari Haf Lewis

cari haf lewis

iconManylion Cyswllt Canolfan Iaith Eifionydd Blwyddyn 5-9

 

 

 

Canolfan Iaith Eifionydd Blwyddyn 5-9
Porthmadog
LL49 9HS


Pennaeth Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd : Rhys Meredydd Glyn

RhysGlyn@gwynedd.llyw.cymru

07436055587

 

Athrawes / Dirprwy Bennaeth y Gyfundrefn: Cari Haf Lewis

CariHafLewis@gwynedd.llyw.cymru

01766515573

 

Uwch gymhorthydd: Drudwen Lloyd Jones

Map

iconLleoliad Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

MAP AA ROUTER

Rhowch eich cod post yn y blwch islaw, cliciwch, ac fe’ch cyflwynir â llwybr i’r daith.

Cod Post:

iconTaith Weledol Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

 

iconCalendr Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

 

Yn yr Adran yma:

 

Polisi Diogelu Data

01766 515573

© 2025 Hawlfraint Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd ~ Gwefan gan Delwedd