Cefndir
Cynradd
Uwchradd
Newyddion
Plant
Gwefannau

Cynradd

Agorwyd y ganolfan iaith gynradd gyntaf yn 1984 ac oherwydd ei llwyddiant ysgubol agorwyd canolfannau eraill yn fuan wedyn. Heddiw, ceir pedair canolfan yng Ngwynedd. Lleolir y canolfannau cynradd yng Nghaernarfon, Dolgellau, Llangybi a Phenrhyndeudraeth.

Nod y Canolfannau Iaith yw darparu cwrs dwys yn y Gymraeg i fewnfudwyr er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn o brofiadau addysg ddwyieithog.
Mae’r ddarpariaeth hon yn greiddiol i gynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu’r Polisi Iaith cyfredol.
(Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2017-2020)

Croesewir disgyblion 6 - 11 oed sydd yn newydd i’r Sir am dymor o gwrs i`w Canolfan Iaith agosaf. Bydd uchafswm o 16 disgybl yn mynychu pob canolfan, ar wahân i Ddolgellau, sydd â lle i 8 disgybl yn unig.

Pamffled Canolfannau Iaith Gwynedd (yn dod yn fuan)

 

Cwrs strwythuredig
Mae`r cwrs wedi cael ei gynllunio`n ofalus i sicrhau llwyddiant. Ceir strwythur bendant i`r gwersi sy`n datblygu o wythnos i wythnos i gynnig iaith safonol i`r disgyblion.

Cwrs hwyliog a bywiog
Rhoddir gwerth mawr ar fwynhad, gan mai hyn fydd yn sicrhau bod y digyblion yn magu hyder i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol.

Cwrs amlgyfrwng a thrawsgwricwlaidd
Drwy ddrama a chanu, mathemateg a gwyddoniaeth, addysg gorfforol a chelf a llawer mwy, trochir y plant yn y Gymraeg. Adlewyrchir hyn yng nghynlluniau gwaith yr athrawon. Galluoga hyn i’r disgyblion ddychwelyd i`w hysgolion i ddilyn eu cwricwlwm yn y Gymraeg.

Er mwyn sicrhau dilyniant priodol yn yr ysgolion bydd athrawon y Canolfannau yn cynnig gwasanaeth ôl-ofal i`r disgyblion wedi iddynt ddychwelyd i`w hysgolion.

Am fwy o wybodaeth am gyrsiau i rieni/oedolion , cysylltwch â'r ganolfan iaith leol.

 

Polisi Diogelu Data

© 2021 Hawlfraint Canolfannau Iaith Gwynedd ~ Gwefan gan Delwedd

Bookmark and Share