Cefndir
Cynradd
Uwchradd
Newyddion
Plant
Gwefannau

Cefndir

Cymru

disgyblion
  • Gwlad Geltaidd yw Cymru.
  • Mae 3 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru.
  • Caerdydd yw prif ddinas Cymru.
  • Yr Wyddfa yw mynydd uchaf Cymru. Mae’n 3,560 troedfedd o uchder (1085metr).
  • Mae mwy o gestyll mewn milltir sgwar yng Nghymru nac mewn unrhyw wlad arall yn y byd.
  • Mae 870 milltir o arfordir yng Nghymru.
  • Ceir yma 5 Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol: Dyffryn Gwy, Arfordir Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Penrhyn Gŵyr, Bryniau Clwyd.
  • Ceir yma 3 Pharc Cenedlaethol: Eryri, Arfordir Penfro, Bannau Brycheiniog.
  • Yn 1865 gadawodd 154 o Gymry borthladd Lerpwl i sefydlu gwladfa Gymreig ym Mhatagonia, Ariannin. Mae tua 5,000 o bobl yn dal i siarad Cymraeg ym Mhatagonia heddiw.
  • Anthem Genedlaethol Cymru yw ‘Hen wlad Fy Nhadau’ a ysgrifennwyd gan Evan James a James James ym Mhontypridd yn 1856.
  • Diwrnod Cenedlaethol Cymru:1 Mawrth (Dydd Gŵyl Dewi).
  • Mae Cymru yn genedl angerddol o ran chwaraeon, a bydd popeth ar stop ar gyfer gemau rygbi a phêl-droed ryngwladol!

Yr Iaith Gymraeg

llaw gyda baner cymru arni
  • Mae’r Gymraeg ymhlith y cryfaf o ieithoedd llai eu defnydd yn Ewrop.
  • Mae hanner miliwn o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg.
  • Mae'r Gymraeg yn un o’r ieithoedd Celtaidd, ac yn un o ieithoedd hynaf Ewrop - yn tarddu o’r chweched ganrif.
  • Mae’r Gymraeg yn iaith fyw.
  • Dysgir y Gymraeg i’r plant i gyd yn yr ysgol hyd at 16 oed.
  • Ers 2012 mae gan Gymru Gomisiynydd Iaith sy’n amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg.
  • Mae gallu siarad y Gymraeg yn fanteisiol iawn.
  • Mae addysg Gymraeg wedi cynyddu’n aruthrol mewn poblogrwydd ers i’r ysgol gynradd ddynodedig Gymraeg gyntaf agor yn 1947. Mae rhieni plant Cymru yn galw am ragor o ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Mae’r galw am addysg Gymraeg yn cynyddu.
  • Uchelgais Llywodraeth Cymru yw cynyddu y nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Gwynedd

disgyblion

Wyddoch chi hyn ?

  • Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Gwynedd.
  • Mae'r ardal bresennol yn mesur 2,548 cilomedr sgwâr ( 983.78 milltir sgwâr, ychydig yn llai na Lwcsembwrg ) gyda phoblogaeth o 121,874 (Cyfrifiad 2021 ).
  • Gwynedd yw`r sir sydd â`r cyfartaledd uchaf o`i phoblogaeth sy`n siarad Cymraeg - 64.4%
  • Yng Ngwynedd mae 85 ysgol gynradd, 12 ysgol uwchradd, 2 Ysgol Gydol Oes,2 ysgol arbennig, 3 Canolfan Drochi Iaith Gynradd a 3 Canolfan Drochi Iaith Cynradd/ Uwchradd.
  • Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu polisi dwyieithog trwy holl ysgolion Gwynedd.
  • Y nod yw sicrhau bod holl ddisgyblion y sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys oed-berthnasol er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.
  • Mae`r canolfannau iaith yn cynorthwyo`r ysgolion i weithredu Polisi Iaith y Sir a gellir nodi llwyddiant nodedig dros 1,473 o ddisgyblion cynradd a 477 o ddisgyblion uwchradd rhwng 2005 a 2015.

Addysg yng Ngwynedd

Y Gymraeg yw:

  • disgyblioniaith ysgolion Gwynedd;
  • iaith fusnes a chyfathrebu ysgolion Gwynedd;
  • iaith addysgu a dysgu pob pwnc (ac eithrio Saesneg); ac
  • iaith yr athrawon, y disgyblion a phob agwedd o fywyd yr ysgol.

Polisi Iaith Gwynedd

Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg Gwynedd 2017-2020


Canolfannau ar gyfer hwyrddyfodiaid

Yng Ngwynedd darperir gwasanaeth benodol ar gyfer hwyrddyfodiaid mewn Canolfannau Iaith.

Nod y Canolfannau Iaith yw darparu cwrs dwys yn y Gymraeg i fewnfudwyr er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn o brofiadau addysg ddwyieithog.

Mae’r ddarpariaeth hon yn greiddiol i gynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu’r Polisi Iaith.

Mae`r addysgu'n seiliedig ar ddulliau trochi ieithyddol ac mae'r dosbarthiadau'n fach iawn.


Gweler: Addysg Drochi Ieithyddol isod

Siarter Iaith - cliciwch yma

Amlieithrwydd

pobl ifanc

Ystyr amlieithrwydd yw’r gallu i siarad mwy nac un iaith.

Yng Ngwynedd, mae pob disgybl yn derbyn addysg ddwyieithog.

 

Manteision amlieithrwydd:

  • Dengys ymchwil ryngwladol fod manteision gwybyddol, ieithyddol, academaidd a chymdeithasol o fod yn amlieithog.
  • Mae person amlieithog yn meddu ar fwy nac un diwylliant a’r gwerthoedd sy’n ymwneud â’r diwylliannau hynny.
  • Dengys ymchwil gan Cenoz a Genesee (1998) bod meddwl dargyfeiriol disgyblion amlieithog yn well na disgyblion uniaith.
  • Dangosodd ymchwil Cenoz (2003) ei bod yn haws i ddisgybl amlieithog ddysgu ieithoedd ychwanegol.
  • Darganfu Tomas a Collier (2001) fod disgyblion sy’n dilyn rhaglenni dwyieithog yn llwyddo i gyrraedd lefelau uwch o gyflawniad na’u cyfoedion uniaith
  • Mae amlieithrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad ieithyddol ac addysgiadol plant (Cummins, 2001)

10 Rheswm Da dros ddysgu`r Gymraeg

pobl ifanc


  • Mae 562,000 o bobl yn siarad y Gymraeg yng Nghymru.
  • Mae 65.4% o bobl Gwynedd yn siarad y Gymraeg.
  • Mae pob plentyn yng Ngwynedd yn derbyn addysg ddwyieithog – yn unol â Pholisi Iaith Gwynedd.
  • Nod Polisi Iaith Gwynedd yw bod holl ddisgyblion y Sir yn meddu ar sgiliau dwyieithrwydd cytbwys.
  • Yn ysgolion cynradd Gwynedd gosodir sylfaen gadarn ar gyfer y Gymraeg.
  • Sicrheir dilyniant yn y Gymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng dysgu o 5 i 16 oed.
  • Mae meddu ar sgiliau amlieithrwydd yn arwain at lwyddiant academaidd (tua 10% yn uwch nac addysg uniaith).
  • Mae dysgu`r Gymraeg yn ei gwneud hi`n haws dysgu iaith ychwanegol.
  • Drwy`r Gymraeg ceir dealltwriaeth o ddiwylliant arall sy`n cynyddu`r teimlad o berthyn.
  • Mae`r Gymraeg yn un o`r amryw sgiliau sy'n ddeniadol i gyflogwyr fod yn chwilio amdani.

 

Canolfannau Iaith Gwynedd

pobl ifanc

Ceir pedair canolfan gynradd ac un ganolfan uwchradd yng Ngwynedd. Lleolir y canolfannau cynradd yng Nghaernarfon, Dolgellau, Llangybi a Phenrhyndeudraeth. Lleolir y ganolfan uwchradd ym Mhorthmadog.

Beth ydy`r Hanes?

 

Gweledigaeth a Chenhadaeth

  • Gosod sylfaen gref i’r disgyblion yn y Gymraeg er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn ym mhrofiadau a manteision addysg ddwyieithog.
  • Cynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu Polisi Iaith Gwynedd.

Amcanion

  • Darparu addysg drochi yn y Gymraeg i ddisgyblion sy’n newydd i Wynedd.
  • Darparu addysg o safon uchel gan arbenigwyr ym maes addysg drochi.
  • Darparu gwasanaeth cyfannol i ddisgyblion.
  • Datblygu, meithrin a chynnal disgyblion.
  • Datblygu’r Gymraeg drwy gyfrwng addysg, diwylliant, traddodiad, chwaraeon, cerddoriaeth a llenyddiaeth.

Llwyddiant

  • Ceir cyswllt da rhwng yr ysgolion a’r canolfannau.
  • Mae’r llwyddiant i’w weld yn amlwg pan ddychwela’r disgyblion i’w hysgolion a’u cymunedau gyda sylfaen gadarn yn y Gymraeg wedi tymor o ddysgu dwys.
  • Er mwyn sicrhau dilyniant priodol yn yr ysgolion, bydd athrawon y canolfannau yn cynnig ôl–ofal i bob disgybl wedi iddynt ddychwelyd i’w hysgolion, a hynny mewn cydweithrediad ag athrawon yr ysgolion.

Cynradd / Uwchradd

Polisi Iaithpobl ifanc

 

Cynradd

Yr un yw nod y Polisi Iaith ar draws holl ysgolion cynradd y sir, sef datblygu gallu pob disgybl i fod yn hyderus yn y ddwy iaith erbyn diwedd CA2. Y Gymraeg yw iaith swyddogol yr asesu yn yr ysgol ar ddiwedd CS. Yn CA2, rydym yn parhau i ddatblygu gafael disgyblion ar y Gymraeg gan roi sylw i ddatblygu eu sgiliau yn y ddwy iaith.

 

Uwchradd

Yn yr uwchradd, disgwylir i bob disgybl sydd wedi cyrraedd lefel angenrheidiol, sef 3+ , ar ddiwedd CA2 ddilyn Cymraeg Iaith Gyntaf yn CA3 er mwyn sicrhau dilyniant a pharhad priodol. Y gobaith yw y gall y disgyblion hyn astudio'r Gymraeg a'r Saesneg fel pynciau hyd at ddiwedd Blwyddyn 11. Mae ysgolion uwchradd yn adeiladu ar y sylfaen a osodwyd yn y cynradd trwy sicrhau bod pob disgybl yn parhau i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Addysg Anghenion Arbennig

Mae’r Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg yn sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn derbyn cyfle cyfartal ieithyddol o safbwynt addysg ddwyieithog.

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gael ar gyfer yr holl ystod ac amrywiaeth o AAA. Mae gan ddisgyblion a’u rhieni fynediad i wasanaeth sydd yn gwbl ddwyieithog.


Amcanion y Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg

Nod y Polisi Iaith yw sicrhau bod holl ddisgyblion y sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.

Er mai nod cyffredinol y polisi yw dwyieithrwydd, mae pwyslais yn cael ei roi ar y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar (hyd at ddiwedd CS) er mwyn gosod sylfeini cadarn ar gyfer datblygiad pellach. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y bydd mwyafrif yr ysgolion yn cychwyn cyflwyno’r Saesneg yn ffurfiol ar ddiwedd CS. Yn y cyfnodau allweddol eraill, disgwylir i ysgolion gynllunio er mwyn datblygu gafael disgyblion ar y Gymraeg.

Mae hyn yn golygu bod y Gymraeg yn cael ei haddysgu fel iaith gyntaf yn ysgolion cynradd y sir.

Addysg Drochi Ieithyddol

pobl ifanc


Dull o ddysgu iaith ychwanegol yw ‘addysg drochi ieithyddol’ ble defnyddir yr iaith ychwanegol fel cyfrwng addysgu`r dosbarth. Mae addysg drochi bellach wedi'i sefydlu'n gadarn fel dull llwyddiannus ac effeithiol o ddysgu iaith ychwanegol. Ei nod yw datblygu safon uchel o gymhwysedd yn yr iaith.

 

Manteision Addysg Drochi

Mae ymchwil yn dangos bod disgyblion sydd wedi profi addysg drochi yn:

  • rhagori yn academaidd (Gallagher& Hanna, 2002);
  • gallu dysgu trydedd a phedwaredd iaith yn haws (Cenoz & Valencia, 1994);
  • deall ac yn cofleidio diwylliannau eraill (Gallagher& Hanna, 2002);
  • meddu ar well ymwybyddiaeth o hunaniaeth, diwylliant a theimlad o gymdeithas (Baker, 2003);
  • magu mwy o hunan barch (Baker, 2003); a
  • datblygu gwell sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol (Cummins, 2000).

Beth ddywed eraill

pobl ifanc

"Diolch yn fawr iawn. Rydym yn gwbwl hyderus y bydd ei allu i gyfathrebu drwy`r Gymraeg yn fanteisiol iawn i`w addysg. Teimlwn fod y ganolfan yn rhagorol a diolch i bawb am eu hymdrechion, eu hymroddiad a`u proffesiynoldeb."


"Ni allem fod wedi gofyn am ddechrau gwell i addysg Uwchradd fy mhlentyn. Gwnaeth fy merch ffrindiau newydd yn y ganolfan. Roedd hyn yn ei gwneud hi`n haws iddi setlo yn yr ardal wedyn."


"Teimlaf fod y Ganolfan o gymorth mawr i`r plant i ddysgu`r iaith. Mae`r staff yn amyneddgar ac yn gyfeillgar."


"Mae fy mhentyn wedi elwa yn fawr iawn o fynychu`r ganolfan, nid dim ond am yr hyn gyflawnwyd yn addysgol yno, ond hefyd ei bod yn teimlo`n aelod llawn o`r gymdeithas ac yn gallu cyfrannu iddi."


"Dwi’n hapus iawn bod fy mhlant wedi cael y cyfle i ddod i’r Ganolfan Iaith. Maen nhw wedi mwynhau pob eiliad o’r cwrs. O’r cyffro wrth aros am y tacsi yn y bore tan iddynt gyrraedd adra.”


"Mae fy mhlentyn wedi magu llawer o hyder ac mae hi’n gallu symud ymlaen gydag agwedd bositif newydd tuag at y Gymraeg wrth fynd yn ôl i’r ysgol."


“Mae’n grêt ei chlywed yn siarad Cymraeg yn hyderus wrth chwarae gyda’i ffrindiau newydd.”


"Mae’r hyder mae’r plant yn ei fagu yn anhygoel ac mae’n anodd coelio pa mor gyflym maent yn dysgu’r iaith.”


“Fedra i ddim brolio’r athrawon ddigon, mae … wedi dysgu sgil newydd a fydd yn help mawr iddo yn y dyfodol.”

Gwybodaeth yma'n fuan....

dysgucymraeg.cymru Gogledd Orllewin - cliciwch yma

Prifysgol Bangor - dysgucymraeg.cymru Gogledd Orllewin - cliciwch yma

 

 

 

 

 

Polisi Diogelu Data

017665155573

© 2021 Hawlfraint Canolfannau Iaith Gwynedd ~ Gwefan gan Delwedd

Bookmark and Share