Hanes
Beth ydy`r Hanes ?
Cyn Medi 1984 roedd gan Wynedd dîm o athrawon bro oedd yn gweithio yn ysgolion cynradd dalgylch pob ysgol uwchradd yn y sir. Bryd hynny, roedd Awdurdod Addysg Gwynedd yn gwasanaethu’r Wynedd bresennol, Ynys Môn a rhannau gorllewinol Sir Conwy oedd yn cynnwys trefi Conwy, Llandudno a Llanrwst.
Gwaith pennaf athrawon bro yn yr ardaloedd Cymraeg oedd dysgu’r Gymraeg i`r disgyblion yn y sector cynradd oedd yn newydd i`r sir drwy fynd o ysgol i ysgol yn ôl y galw.
Gwaith athrawon bro yn yr ardaloedd Saesneg oedd rhoi arweiniad i’r athrawon dosbarth cynradd ar gyflwyno’r Gymraeg.
Er mwyn cyflymu`r broses o ddysgu Cymraeg, aethpwyd ati i agor Canolfannau Iaith Cynradd i`r hwyr-ddyfodiaid.
Cyflogwyd Gwenno Hywyn a John Richard Hughes i baratoi cwrs ar gyfer y newydd ddyfodiaid i’r sir, gydag Angharad Tomos yn gyfrifol am greu’r lluniau. Bwriad gwreiddiol y cwrs oedd ei ddefnyddio wrth deithio o un ysgol i’r llall, ond pan benderfynwyd cynnal y cwrs mewn Canolfannau Iaith, gofynnwyd i Margaret Roberts, Sulwen Edwards ac O G. Jones i fod yn gyfrifol am ei addasu. Daeth y cwrs hwn, sef Cynllun y Llan, i chwarae rhan greiddiol i lwyddiannau`r Canolfannau Iaith.
Agorwyd y ganolfan gynradd gyntaf yng Nghaernarfon ym mis Medi 1984. Erbyn hyn, ceir tair canolfan iaith arall ac fe’u lleolir yn Nolgellau, Llangybi a Phenrhyndeudraeth.
Bu llawer o alw gan unigolion ac ysgolion am arbrofi gyda’r un math o ddarpariaeth yn y sector uwchradd. Mentrodd Gwynedd, gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg, gan sefydlu’r Ganolfan Iaith Uwchradd ym Mhorthmadog yn 2004 gyda’r garfan gyntaf yn cychwyn ar ôl y Pasg y flwyddyn honno. Chwe wythnos o gyfnod oedd y cwrs cyntaf ond ar argymhelliad y Pwyllgor Llywio gyda chydweithrediad yr ysgolion, cafodd y cyfnod ei ymestyn i wyth wythnos, gyda thri chyfnod mewn blwyddyn i ddisgyblion gwahanol.
Un agwedd bwysig sy`n cyfrannu at lwyddiant y gwaith yn y ganolfan iaith yw’r dilyniant sy’n digwydd yn y dosbarthiadau ar ôl i’r disgyblion ddychwelyd i’w hysgolion. Er mwyn sicrhau dilyniant priodol yn yr ysgolion bydd athrawon y ganolfan yn cynnig ôl-ofal i bob disgybl wedi iddynt ddychwelyd i’w hysgolion, yn ogystal â rhoi arweiniad i athrawon ynglŷn â’r dilyniant priodol ar gyfer disgyblion.