Nod y Canolfannau Iaith yw darparu cwrs dwys yn y Gymraeg i fewnfudwyr er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn o brofiadau addysg ddwyieithog.
Mae’r ddarpariaeth hon yn greiddiol i gynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu’r Polisi Iaith cyfredol.
(Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2014-2017)
Pwy?
Croesewir disgyblion 11 - 14 oed sydd yn hwyrddyfodiaid i’r Sir am dymor o gwrs iaith yn y Ganolfan Uwchradd. Bydd uchafswm o 16 disgybl yn mynychu`r Ganolfan.
Pamffled Canolfannau Iaith Gwynedd (yn dod yn fuan)
Y Cwrs
Cwrs strwythuredig
Mae`r cwrs wedi ei gynllunio`n ofalus i sicrhau llwyddiant. Ceir strwythur bendant i`r gwersi sy`n datblygu o wythnos i wythnos i gynnig iaith safonol i`r disgyblion.
Cwrs hwyliog a bywiog
Rhoddir gwerth mawr ar fwynhad, gan mai hyn fydd yn sicrhau bod y digyblion yn magu hyder i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol.
Cwrs amlgyfrwng a thrawsgwricwlaidd
Drwy ddrama a chanu, mathemateg a gwyddoniaeth, addysg gorfforol a chelf a dyniaethau, trochir y plant yn y Gymraeg. Galluoga hyn i’r disgyblion ddychwelyd i`w hysgolion i ddilyn y cwricwlwm yn y Gymraeg.
Er mwyn sicrhau dilyniant priodol yn yr ysgolion bydd athrawon y Canolfannau yn cynnig gwasanaeth ôl-ofal i`r disgyblion wedi iddynt ddychwelyd i`w hysgolion.
Staff Canolfan Iaith Uwchradd
Nifer disgyblion: 16
Teacher: Siwan Connick
Senior Assistant : Dawn Larsen
Manylion Cyswllt Canolfan Iaith Uwchradd
Canolfan iaith safle Ysgol Tryfan Bangor,
Ysgol Tryfan,
Lôn Powys,
BANGOR,
Gwynedd
LL57 2TU.
Manylion Cyswllt: siwanlloydconnick@gwynedd.llyw.cymru
© 2025 Hawlfraint Cyfundrefn Addysg Drochi Gwynedd ~ Gwefan gan Delwedd