Cefndir
Cynradd
Uwchradd
Newyddion
Plant
Gwefannau

Uwchradd

iconGwybodaeth am Ganolfan Iaith Uwchradd

 

Ceir pedair canolfan iaith gynradd ac un ganolfan iaith uwchradd yng Ngwynedd. Lleolir y canolfannau cynradd yng Nghaernarfon, Dolgellau, Llangybi a Phenrhyndeudraeth. Lleolir y ganolfan iaith uwchradd ym Mhorthmadog.

Beth yw`r nod?disgyblion

Nod y Canolfannau Iaith yw darparu cwrs dwys yn y Gymraeg i fewnfudwyr er mwyn eu galluogi i ymdoddi i’r gymdeithas ddwyieithog a chyfranogi’n llawn o brofiadau addysg ddwyieithog.


Mae’r ddarpariaeth hon yn greiddiol i gynorthwyo ysgolion cynradd ac uwchradd i weithredu’r Polisi Iaith cyfredol.
(Cynllun Strategol Y Gymraeg Mewn Addysg 2014-2017)


Pwy?

Croesewir disgyblion 11 - 14 oed sydd yn hwyrddyfodiaid i’r Sir am dymor o gwrs iaith yn y Ganolfan Uwchradd. Bydd uchafswm o 16 disgybl yn mynychu`r Ganolfan.


Pamffled Canolfannau Iaith Gwynedd (yn dod yn fuan)

 

Y Cwrs

Cwrs strwythuredig

Mae`r cwrs wedi ei gynllunio`n ofalus i sicrhau llwyddiant. Ceir strwythur bendant i`r gwersi sy`n datblygu o wythnos i wythnos i gynnig iaith safonol i`r disgyblion.


Cwrs hwyliog a bywiog

Rhoddir gwerth mawr ar fwynhad, gan mai hyn fydd yn sicrhau bod y digyblion yn magu hyder i ddefnyddio’r iaith yn effeithiol.

 

Cwrs amlgyfrwng a thrawsgwricwlaidd

Drwy ddrama a chanu, mathemateg a gwyddoniaeth, addysg gorfforol a chelf a dyniaethau, trochir y plant yn y Gymraeg. Galluoga hyn i’r disgyblion ddychwelyd i`w hysgolion i ddilyn y cwricwlwm yn y Gymraeg.


Er mwyn sicrhau dilyniant priodol yn yr ysgolion bydd athrawon y Canolfannau yn cynnig gwasanaeth ôl-ofal i`r disgyblion wedi iddynt ddychwelyd i`w hysgolion.

 

icon

 

Staff Canolfan Iaith Uwchradd
nifer disgyblion: 16

 

Arweinydd: Miss Cari Haf Lewis
Athrawes: Llinos Medi Williams
Llun i'w ddilyn yn fuan...

iconManylion Cyswllt Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

Canolfan Iaith Uwchradd Gwynedd
Porthmadog
LL49 9HS

Ffôn: 01766 515573

CariHafLewis@gwynedd.llyw.cymru

 

Gallwch gysylltu â’r Arweinydd drwy ddefnyddio’r ddolen isod:

CariHafLewis@gwynedd.llyw.cymru

 

Map

iconLleoliad Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

MAP AA ROUTER

Rhowch eich cod post yn y blwch islaw, cliciwch, ac fe’ch cyflwynir â llwybr i’r daith.

Cod Post:
 

iconTaith Weledol Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

 

 

iconCalendr Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

iconLluniau Canolfan Iaith Uwchradd

 

 

 

Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan... Gwybodaeth i ddilyn yn fuan...

 

 

Polisi Diogelu Data

© 2021 Hawlfraint Canolfannau Iaith Gwynedd ~ Gwefan gan Delwedd

Bookmark and Share